Prif noddwr

Telerau ac Amodau

1.

Hyrwyddir Stroliwch a Roliwch Sustrans gan Sustrans, rhif cwmni 1797726, (Rhif Elusen Gofrestredig 326550 (Cymru a Lloegr), SCO39263 (Yr Alban) (“Yr hyrwyddwr”/”ni”).

2.

Dyddiadau’r her yw dydd Llun 11- 22 Mawrth 2024.

3.

Caiff ysgolion gofnodi siwrneiau ar gyfer yr her ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans rhwng dydd Llun 11 Mawrth 2024 tan hanner dydd Llun Mawrth 15 Ebrill 2024. Ni fydd siwrneiau a wnaed cyn yr amser dechrau neu ar ôl yr amser cau yn cyfrif tuag at yr her.

4.

Dylid anfon unrhyw ymholiad ynghylch yr ymgyrch hwn at: bigwalkandwheel@sustrans.org.uk.

5.

Ceidw’r hyrwyddwyr yr hawl i ganslo’r ymgyrch hwn ar unrhyw adeg, os penderfynir fod angen, neu os bydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth yn codi.

6.

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn agored i holl ysgolion y Deyrnas Unedig. Mae angen rhif DfE/SEED/Inst er mwyn cwblhau’r broses gofrestru a galluogi ysgolion i gymryd rhan.

Caiff ysgolion meithrin gymryd rhan yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans a bwrw fod ganddynt rif DfE. Os nad oes gan feithrinfa rif DfE a’u bod yn dymuno cymryd rhan, dylid cysylltu â bigwalkandwheel@sustrans.org.uk.

7.

Mae pum categori o Gerdded a Rhôl Sustrans: ysgolion cynradd bach iawn (hyd at 70 o ddisgyblion), ysgolion cynradd bach (hyd at 250 o ddisgyblion), ysgolion cynradd mwy (250+), ysgolion cynradd ac uwchradd cyfun, ac ysgolion uwchradd.

Nid oes categori ar wahân ar gyfer ysgolion ADY. Caiff disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol sy’n cael eu cyfrif tuag at sgôr ddyddiol yr ysgol. Gall hyn gynnwys cerdded, defnyddio cadair olwynion, sgwtera neu feicio (gan ddefnyddio beiciau’r ysgol/beiciau llonydd/beiciau wedi’u haddasu os oes angen).

Os bydd disgybl ADY yn methu gwneud siwrne egnïol i’r ysgol, yna bydd un siwrne egnïol yn ystod y diwrnod ysgol, sy’n para am fwy na 10 munud neu a fyddai fel arall wedi’i gwneud mewn cerbyd modurol, yn cyfrif yn yr her. Rhaid cofnodi’r siwrneiau hyn ar y dudalen ar gyfer disgyblion ADY.

8.

Caiff cyfranogwyr gofrestru fel ysgol gyfan. Fodd bynnag, os na all yr ysgol gyfan gymryd rhan, caiff ysgolion gofrestru un dosbarth neu grŵp blwyddyn yn yr her. Os caiff ysgol ei chofrestru fel ysgol gyfan, ni chaniateir i ddosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn yn yr ysgol honno gofrestru ar wahân fel dosbarth.

9.

Nid yw’r hyrwyddwyr yn gyfrifol am gamddefnyddio unrhyw wobr, na hawliadau, atebolrwydd, colled neu ddifrod sy’n deillio o’r ymgyrch hwn neu sy’n gysylltiedig ag ef. Nid oes gan yr hyrwyddwyr wybodaeth am amodau lleol ac mae’n bosibl, o ganlyniad i’r amodau hynny, na fydd y llwybrau a ddewisir yn ddiogel, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i: tywydd, prosiectau adeiladu, cau ffyrdd neu ddigwyddiadau eraill. Mae unrhyw ysgolion, o gofrestru i gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans, yn derbyn bod rhaid iddyn nhw, neu eu cynrychiolwyr, arfer pwyll yn eu gweithgareddau sy’n deillio o gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans, a nhw sy’n gyfrifol am benderfyniadau sy’n effeithio ar ddiogelwch disgyblion a chyfranogwyr eraill.

10.

Cynghorir ysgolion i wirio eu manylion i gyd ar wefan Stroliwch a Roliwch cyn i’r her ddechrau. Os bydd unrhyw wybodaeth yn anghywir, dylent gysylltu â threfnwyr yr her (bigwalkandwheel@sustrans.org.uk) i newid y manylion cyn dyddiad dechrau’r her. Unwaith bydd yr her wedi dechrau, ni fydd modd addasu’r wybodaeth a roddwyd wrth gofrestru. Gall manylion anghywir arwain at roi ysgol yn y categori anghywir a gwneud ysgol/dosbarth yn anghymwys i dderbyn unrhyw wobrau neu dlysau.

11.

Mae’r hyrwyddwyr yn anelu at gefnogi ysgolion yn ystod yr her drwy ddarparu adnoddau ar thema Stroliwch a Roliwch Sustrans ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni ellir ein dal yn atebol os na allwn ddarparu’r adnoddau hyn am unrhyw reswm.

12.

Mae sefydliadau sy’n hyrwyddo Stroliwch a Roliwch Sustrans yn gymwys i gofrestru i gael cyfrif Stroliwch a Roliwch Sustrans ar gyfer hyrwyddwyr allanol, sy’n rhoi mynediad iddynt at adnoddau hyrwyddo, adnodd i greu byrddau arweinwyr ar gyfer ysgolion penodol, a mynediad at dudalennau hafan ysgolion. Fodd bynnag, nid yw’r cyfrif hwn yn rhoi mynediad iddynt at fanylion hyrwyddwyr ysgolion.

13.

Rhaid i ysgol neu ddosbarth gofnodi eu siwrneiau egnïol er mwyn:

  • derbyn sgôr ddyddiol sy’n pennu eu safle yn y categori ar ddiwedd yr her
  • ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol
  • bod yn gymwys i ennill yn y raffl wobrau ddyddiol
14.

Caiff ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth gofnodi un siwrne gerdded, cadair olwynion, sgwtera neu feicio fesul disgybl fesul diwrnod o’r her. Dylai hyn fod ar gyfer y siwrne i’r ysgol bob dydd. I’r rhai sy’n parcio a cherdded/olwyno neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant ysgol, mae eu siwrne i’r ysgol yn cyfrif tuag at yr her os oes unrhyw ran o’r siwrne’n cael ei gwneud ar droed, gan ddefnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio am 10 munud neu fwy.

15.

Caiff disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau mewn ysgolion ADY ac ysgolion prif lif ill dau gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans drwy gerdded, defnyddio cadair olwynion, sgwtera neu feicio i’r ysgol (gan ddefnyddio beiciau’r ysgol/beiciau llonydd/beiciau wedi’u haddasu os oes angen).

Os bydd disgybl ADY yn methu gwneud siwrne egnïol i’r ysgol, yna bydd un siwrne egnïol yn ystod y diwrnod ysgol, sy’n para am fwy na 10 munud neu a fyddai fel arall wedi’i gwneud mewn cerbyd modurol, yn cyfrif yn yr her.

16.

Mae ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth sy’n cymryd rhan yn yr her yn cytuno i gofnodi siwrneiau/gweithgareddau corfforol mor gywir â phosibl o fewn y rheolau a amlinellir yn y telerau ac amodau hyn.

17.

Anogwn ysgolion i gofnodi siwrneiau ar bob un o ddyddiau’r her, ond eu pum niwrnod gorau sy’n penderfynu eu safle terfynol.

18.

Rhaid cofnodi siwrneiau a erbyn hanner dydd Llun Mawrth 15 Ebrill 2024 er mwyn i ysgolion fod yn gymwys i fod yn enillwyr terfynol yn eu categori.

19.

Pennir safle ysgol/grŵp blwyddyn/ dosbarth ar ddiwedd yr her gan eu sgorau dyddiol. Cyfrifir sgorau dyddiol ar sail y gyfran o ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth sy’n cofnodi siwrne cerdded/cadair olwynion/sgwtera/beicio’r diwrnod hwnnw, ac fe’u cyflwynir fel canran. E.e. Bydd ysgol sydd â 100 o ddisgyblion, a 60 o’r rheiny yn cerdded, yn defnyddio cadair olwynion, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol ar unrhyw ddiwrnod penodol yn cael sgôr ddyddiol o 60%.

20.

Enillwyr terfynol yr her fydd yr ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth gyda’r sgôr uchaf fel cyfartaledd o’u pum niwrnod gorau. Seilir y canlyniadau ar y data a gofnodwyd gan yr ysgol/dosbarth.

21.

Mae yna pum chategori cyffredinol yn her 2024: 

  • ysgolion meithrin (1-69 disgybl)
  • ysgol gynradd fach (70-250 disgybl)
  •  ysgol gynradd fawr (250+ disgybl)
  • ysgolion cynradd ac uwchradd cyfun
  • ysgolion uwchradd.

Bydd y pum ysgol sydd ar frig y byrddau arweinwyr ar gyfer pob un o’r categorïau hyn yn derbyn tystysgrif Stroliwch a Roliwch Sustrans 2024 ecsgliwsif wedi’i fframio.

22.

Pe bai sgôr gyfartal, bydd yr ysgolion ar frig y bwrdd arweinwyr yn cael eu cyhoeddi’n enillwyr ar y cyd.

23.

Caiff yr ysgolion buddugol terfynol a’r safleoedd terfynol eu cadarnhau ddim hwyrach na 29 Ebrill 2024. Bydd manylion yr ysgolion buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Stroliwch a Roliwch. Y rhain fydd y safleoedd swyddogol a therfynol fel y’i pennir gan yr hyrwyddwyr

24.

Bydd yr hyrwyddwyr yn pennu enillwyr yr her yn unol â pherfformiad yr ysgolion. Bydd yr holl benderfyniadau o’r fath yn derfynol ac yn rhwymol.

25.

Er mwyn cael eu cynnwys ar y byrddau arweinwyr dyddiol, dylai ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth gofnodi eu siwrneiau ar wefan Stroliwch a Roliwch yn unol â’r tabl isod.

.
Diwrnod yr herTerfyn amser ar gyfer cofnodi siwrneiau
Dydd Llun 11 Mawrth

Dydd Mawrth 12 Mawrth hanner dydd

Dydd Mawrth 12 MawrthDydd Mercher 13 Mawrth hanner dydd
Dydd Mercher 13 MawrthDydd Lau 14 Mawrth hanner dydd
Dydd Lau 14 MawrthDydd Gwener 15 Mawrth hanner dydd
Dydd Gwener 15 MawrthDydd Llun 18 Mawrth hanner dydd
Dydd Llun 18 MawrthDydd Mawrth 19 Mawrth hanner dydd
Dydd Mawrth 19 MawrthDydd Mercher 20 Mawrth hanner dydd
Dydd Mercher 20 MawrthDydd Lau 21 Mawrth hanner dydd
Dydd Lau 21 MawrthDydd Gwener 22 Mawrth hanner dydd
Dydd Gwener 22 MawrthDydd Llun 15 Ebrill hanner dydd

26.

Ni fydd cyfranogwyr yn ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol os byddant yn cofnodi eu canlyniadau ar ôl hanner dydd ar y diwrnod ysgol canlynol. Fodd bynnag, bydd y siwrneiau yn cael eu hychwanegu at eu cyfanswm terfynol ar gyfer yr her os caiff y siwrneiau hyn eu cofnodi cyn hanner dydd 15 Ebrill 2024.

27.

Ni fydd cyfranogwyr yn ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol os byddant yn cofnodi eu canlyniadau ar ôl hanner dydd ar y diwrnod ysgol canlynol. Fodd bynnag, bydd y siwrneiau yn cael eu hychwanegu at eu cyfanswm terfynol ar gyfer yr her os caiff y siwrneiau hyn eu cofnodi cyn hanner dydd ddydd 15 Ebrill 2024.

28.

Bydd yr hyrwyddwyr yn anelu at gyhoeddi byrddau arweinwyr dyddiol wedi’u diweddaru ar y wefan erbyn 2pm bob dydd, i ddangos canlyniadau’r diwrnod cynt. Fodd bynnag, ni ellir ein dal yn atebol os na allwn gadw at yr amserlen hon.

29.

Unwaith bydd y canlyniadau ar gyfer bob wythnos wedi’u cyhoeddi, byddant yn derfynol.

30.

Bydd ysgolion sy'n cofrestru ar gyfer ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans cyn 12 Chwefror 2024 yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth raffl ar hap.

31.

Yr wobr eleni yw crysau-T Stroliwch a Roliwch arbennig i ddathlu 15 mlynedd i ddosbarth cyfan.

32.

Dewisir yr enillydd ar hap, a chysylltir a chyhoeddir ei enw erbyn 23 Chwefror 2024. Fodd bynnag, ni ellir cael ein dal yn gyfrifol os ni allwn fodloni'r terfyn amser hwn.

33.

Wrth gofrestru eich ysgol cyn 12 Chwefror 2024 rydych chi’n cytuno i gael eich ymrwymo i’r telerau ac amodau hyn.

34.

Bydd Sustrans yn cysylltu â’r ysgol fuddugol drwy’r e-bost a ddefnyddiwyd i gofrestru yng nghystadleuaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans. Bydd unrhyw ddata personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol yn unig.

35.

Dylai’r enillydd hawlio’r wobr erbyn 1 Mawrth 2024. Wedi’r dyddiad hwn, mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl yn gyfan gwbl neu ddewis enillydd arall.

36.

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans wedi’i chynllunio i fod yn her hwyliog i helpu eich ysgol hyrwyddo siwrneiau cerdded, cadair olwyn, sgwtera a beicio i’r ysgol. I ategu hyn, mae’r drefn o rannu gwobrau yn ddyddiol ac ar hap, i ganiatáu cymaint o ysgolion â phosibl ledled y Deyrnas Unedig i ennill gwobrau am ymdrechion eu disgyblion

37.

I gael eich cynnwys yn y raffl wobrau, rhaid ichi gofnodi eich siwrneiau egnïol ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans erbyn hanner dydd ar y diwrnod ysgol canlynol.

38.

Caiff enillwyr gwobrau eu dewis ar hap o blith yr holl ysgolion/grwpiau blwyddyn/dosbarthiadau sydd â sgôr o 15% wedi’i gyfrif ar y diwrnod penodol hwnnw (gweler “Enillwyr categorïau terfynol” uchod am fanylion ynghylch sut cyfrifir y sgôr ddyddiol).

39.

Nid yw bob ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth yn gymwys ar gyfer yr holl wobrau. Anelir rhai gwobrau at gyfranogwyr sydd wedi’u cofrestru mewn categorïau penodol yn unig. Bydd manylion gwobrau dyddiol, a phwy sy’n gymwys i’w hennill, ar gael ar dudalen gwobrau gwefan Stroliwch a Roliwch Sustrans.

40.

Byddwn yn anelu at gyhoeddi enillydd y wobr ddyddiol erbyn 2pm y diwrnod canlynol. Fodd bynnag, ni ellir ein dal yn atebol os na fyddwn yn llwyddo i gadw at yr amserlen hon

41.

Byddwn yn cysylltu ag enillwyr gwobrau drwy ebost. Bydd ysgolion buddugol yn cael cyfle i gytuno i gyfathrebu pellach gyda Sustrans i alluogi straeon dilynol ac astudiaethau achos ar effaith ennill y wobr.

42.

Yr hyrwyddwyr fydd yn pennu enillwyr y gwobrau dyddiol yn unol â’r telerau ac amodau. Bydd yr holl benderfyniadau o’r fath yn derfynol ac yn rhwymol.

43.

Dylai’r enillydd hawlio’r wobr erbyn dydd Llun 16 Mai 2024. Ar ôl y dyddiad hwn, ceidw’r hyrwyddwyr yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl yn gyfan gwbl neu ddewis enillydd arall.

44.

Mae opsiwn i ddisgyblion ysgolion uwchradd gyflwyno eu hymgyrch i bigwalkandwheel@sustrans.org.uk am gyfle i ennill y cyfle i ddangos eu hymgyrch i Schwalbe yn eu pencadlys yn y Deyrnas Unedig.

45.

Rhaid cyflwyno ymgyrchoedd disgyblion erbyn 29 Ebrill 2024 fan bellaf.

46.

Anelwn at gyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol erbyn 13 Mai ond ni ellir ein dal yn atebol os na allwn gadw at yr amserlen hon.

47.

Ni fydd unrhyw ddewis ariannol amgen i’r gwobrau’n cael eu cynnig, hyd yn oed yn achos canslo

48.

Nid yw’r wobr yn drosglwyddadwy. Pe byddai amgylchiadau nas rhagwelwyd yn codi, ceidw’r hyrwyddwyr yr hawl i gynnig gwobr amgen.

49.

Bydd Sustrans yn cysylltu â’r enillwyr drwy ebost. Byddwn yn rhannu enw a chyfeiriad ebost enillwr gwobr gyda noddwyr y wobr er mwyn trefnu i’r wobr gael ei danfon. Bydd unrhyw ddata personol sy’n gysylltiedig â chystadleuwyr yn cael ei ddefnyddio dim ond yn unol â deddfwriaethau diogelu data cyfredol, a dim ond ar gyfer gweinyddu’r wobr y caiff ei ddefnyddio.

50.

Trefnir danfon y wobr yn uniongyrchol rhwng rhoddwr y wobr a’r enillydd. Nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddanfon y wobr berthnasol na boddhad yr enillydd gyda’r eitem(au). Cysylltwch â’r cwmni a roddodd y wobr yn y sefyllfa hon.

51.

Ni all yr hyrwyddwyr dderbyn cyfrifoldeb am golled neu lygriad data ar ei daith.

52.

Ceidw’r hyrwyddwyr yr hawl i ganslo neu dynnu Gwobrau Dyddiol yn ôl, felly hefyd unrhyw gystadlaethau gwobrau eraill sy’n gysylltiedig â’r Her ar unrhyw adeg.

53.

Gall yr hyrwyddwyr amnewid unrhyw wobr a gaiff ei rhoi fel rhan o’r ymgyrch hwn ag un o’r un gwerth neu werth uwch, fel y penderfyna’r hyrwyddwr, yn llwyr ar ei ddisgresiwn ei hun.

54.

Ni chewch addasu logo nac adnoddau Stroliwch a Roliwch Sustrans, na natur y gystadleuaeth, oni bai fod caniatâd ysgrifenedig yn cael ei roi gan dîm Stroliwch a Roliwch Sustrans. Gellir gwneud ceisiadau trwy anfon ebost at bigwalkandwheel@sustrans.org.uk.

55.

Ni chewch addasu enw cystadleuaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans. Rhaid cyfeirio at y gystadleuaeth fel naill ai “Stroliwch a Roliwch Sustrans”, “Stroliwch a Roliwch Sustrans/Big Walk and Wheel”, neu ‘Sustrans Big Walk and Wheel”.

56.

Ni chaniateir ichi ddefnyddio cystadleuaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans i greu incwm neu elw heblaw am godi arian i Sustrans. Fodd bynnag, A BWRW BOD ysgolion yn cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans, caniateir iddynt godi arian i’w hysgol eu hunain yn ystod y gystadleuaeth.

57.

Rhaid ichi beidio â defnyddio cystadleuaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans mewn unrhyw ffordd sy’n niweidiol i enw da Sustrans.

58.

O gofrestru ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans, ystyrir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.

59.

Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a’n gwybodaeth am ddefnyddio cwcis ar wahân, os gwelwch yn dda.

.

Mae’r codau disgownt hyn wedi’u bwriadu ar gyfer defnydd yr ysgol yn unig.