Prif noddwr

Gwobrau dyddiol i ysgolion

Bydd pob ysgol yn cael eu cynnwys mewn rafflau dyddiol i ennill gwobrau os bydd mwy na 15% o’ch ysgol yn cerdded, defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol fesul diwrnod o’r her.

WJ Group

WJ Group

Dydd 4

WJ yw busnes Marciau Diogelwch ar Ffyrdd blaenaf y DU, a’u gweledigaeth yw ‘Siwrneiau Diogel a Chynaliadwy i Bawb’.

Dyma maen nhw am ei roi i un ysgol gynradd:

  • Marciau buarth ysgol pwrpasol, fydd yn cael eu dewis gan y plant i gael marciau sy’n cynrychioli eu hysgol orau. Bydd y marciau creadigol yma yn creu cyfleoedd dysgu egnïol fydd yn bywiogi amgylchedd yr ysgol.

Mae WJ yn arbenigwyr gosod marciau ffyrdd parhaol a dros dro, stydiau ffyrdd ac arwynebeddau ffrithiant uchel wedi’u lliwio, yn ailwynebu arwynebeddau a gosod camerâu cyflymder cyfartalog. Mae dull cydweithredol y cwmni hwn yn canolbwyntio ar greu gwerth i’w cymunedau o randdeiliaid eu hunain, yn lleol ac yn genedlaethol, a thrwy eu menter Thinking Community, maen nhw wedi ysbrydoli mwy na 42,000 o fywydau yn y 4 blynedd ddiwethaf.

Dilynwch WJ Markings: Facebook / Twitter / Instagram / LinkedIn / Gwefan

EarthSense

EarthSense

Dydd 6

Mae EarthSense yn darparu atebion wedi’u teilwra sy’n galluogi’r byd i ddelweddu a rheoli ei heriau amgylcheddol er mwyn gwella iechyd pobl. Ganed EarthSense o 15 blynedd o ymchwil ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac mae gan y sefydliad dreftadaeth academaidd gyfoethog sy’n arbenigo mewn monitro amgylcheddol a modelu data llygredd aer; gan ddarparu’r wybodaeth amgylcheddol fwyaf manwl, y gellir gweithredu arno, i hwyluso prosesau penderfynu ystyrlon a chanlyniadau y gellir gweithredu arnynt.

Mae’r wobr a roddir drwy haelioni EarthSense, yn rhoi mynediad i’r ysgol fuddugol i’r llwyfan monitro ansawdd aer arloesol, MyAir®. Byddwch yn gallu clicio ar fap byw a rhoi Virtual-Zephyr® ar leoliad o’ch dewis. Bydd hyn yn eich galluogi i weld data ansawdd aer byw yn y lleoliad hwnnw, heb osod unrhyw offer! Byddwch yn gallu monitro ac olrhain prif amseroedd llygredd a gweld sut mae eich ansawdd aer yn newid dros amser.

Yn ogystal â mynediad at MyAir® am flwyddyn, bydd EarthSense hefyd yn dod i’r ysgol ac yn cynnal sesiwn addysgol am ansawdd aer. Bydd EarthSense yn darparu arddangosiad byw o’r Llwyfan MyAir® Platform ac yn darparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch sut gallwn ni oll wneud gwahaniaeth i wella’r aer yr ydym oll yn ei anadlu.

Mae EarthSense yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o brosiectau monitro ansawdd aer, yn cynnwys systemau trafnidiaeth clyfar, dinasoedd clyfar, awdurdodau lleol, cwmnïau adeiladwaith a mwy. Mae EarthSense yn darparu atebion ar gyfer defnyddiau unigryw fel ei ddyfeisiau monitro ansawdd aer mynegol cwmpasol arobryn, ardystiedig, y Zephyr®. Model llygredd aer byd-eang eglurder uchel, MappAir®, sy’n defnyddio uwch-dechnegau modelu, a mewnbynnau data o’r cwmwl sy’n cymhwyso technolegau dysgu peirianyddol i greu delweddau dibynadwy a defnyddiadwy o lygredd aer ledled y byd. A MyAir®, rhaglen delweddu data sy’n eich galluogi i weld, dadansoddi, a lawrlwytho eich data ansawdd aer, naill ai ar borth cyhoeddus ar y we, neu ar app ar gyfer dyfeisiau symudol.

Dilynwch EarthSense: LinkedIn / Twitter / Website /

Broxap

Broxap

Dydd 9

Broxap Ltd. yw un o ddylunwyr, cynhyrchwyr a gosodwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

Mae Broxap yn cynnig mannau parcio lliwgar i ddwy ysgol gynradd fuddugol. Bydd yr ysgolion buddugol yn cael dewis lliwiau’r raciau beiciau i ddarparu man parcio hwyliog, dengar ar gyfer sgwteri a beiciau eu disgyblion.

  • un rac beiciau, yr ysgol i ddewis y lliw
  • un rac sgwteri, yr ysgol i ddewis y lliw

Mae Broxap yn gweithio gydag adrannau Addysg, Awdurdodau Lleol, Penseiri a Chontractwyr ymysg eraill, ac maen nhw wedi gwneud enw da fel darparwr a gosodwr cysgodfeydd, standiau a raciau beiciau ledled y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd lawer. Mae Broxap yn fusnes teuluol sy’n cynnig nwyddau o safon sy’n addas i gyllideb y prynwr ac mae’n cyflenwi ei wasanaeth yn brydlon.

Dilynwch Broxap: Twitter / www.broxap.com /

Micro Scooters

Micro Scooters

Dydd 5

Micro Scooters yw’r brand arobryn sydd wedi gweddnewid y daith i’r ysgol i’r daith sgwtera wych rydyn ni’n gyfarwydd â hi erbyn hyn! Mae Micro’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo sgwtera ar y daith i’r ysgol fel dull teithio sy’n gyflymach, yn iachach, yn wyrddach, yn fwy diogel, ac, yn bwysicaf oll, yn fwy o hwyl.

Micro Scooters, yn cynnig gwobrau ardderchog i ysgolion buddugol a’u cefnogwyr yn ystod her y Stroliwch a Roliwch Sustrans.

Mae’r gwobrau yn cynnwys:

  • 10 o Micro Scooters ar gyfer ysgolion cynradd
  • Dau Micro Scooter ar gyfer ysgolion uwchradd
  • Hamperau o 35 o ategolion Micro ar gyfer pedair ysgol

Mae sgwteri Micro Scooters yn adnabyddus am ddiogelwch a chryfder eu cynnyrch. Yn wydn, yn syml ac yn llawn hwyl, mae Micro Scooters yn trawsnewid y ffordd mae plant ac oedolion yn darganfod, mwynhau ac archwilio’r byd.

Dilynwch Micro Scooters: Facebook / Twitter / Instagram / www.micro-scooters.co.uk /

Extreme Mountain Bike Show

Extreme Mountain Bike Show

Dydd 10

Yr Extreme Mountain Bike Show yw’r Tîm pennaf yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop am arddangos Beicio Mynydd, Treialon/BMX, dan arweiniad Danny Butler, sydd wedi bod yn Bencampwr Treialon Beicio Mynydd Prydeinig ac Ewropeaidd droeon.

Mae’r Extreme Mountain Bike Show yn rhoi’r canlynol yn wobr i un ysgol:

  • Sioe arddangos safonol yn cynnwys 30 munud o driciau a styntiau syfrdanol.

Mae tîm yr Extreme Mountain Bike Show yn cynnig adloniant byw, eithafol, diffwdan. Mae ganddynt fwy na 10 mlynedd o brofiad, ac maen nhw’n arbenigo mewn arddangos triciau a styntiau mewn sioeau teuluol, digwyddiadau byw, darllediadau ac, wrth gwrs, ysgolion! Maen nhw’n defnyddio eu hoffer sioe arbenigol eu hunain, sy’n cynnwys goleuadau a chyflenwad pŵer solar, a’r Extreme Mountain Bike Show yw’r unig Dîm Beicio Mynydd ecogyfeillgar yn y Deyrnas Unedig.

Dilynwch Extreme Mountain Bike Show: Facebook / Twitter / Instagram / Website /

Eco Chic

Eco Chic

Dydd 1

Mae Eco Chic yn fwy na dim ond brand; maen nhw’n fudiad tuag at ddyfodol gwyrddach. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn creu nwyddau deniadol, ymarferol, a gwydn o ddeunyddiau cynaliadwy neu wedi’u hailgylchu.

Mae Eco Chic yn cynnig 30 o boteli thermal gyda dyluniad beic deniadol fel gwobr.

Pam Eco Chic?

Yr hyn sy’n eu gwneud yn wahanol yw eu pwynt gwerthu unigryw – eu dyluniadau. Maen nhw’n cyfuno cynaliadwyedd gyda dyluniadau bywiog, gan sicrhau bod pob un o’u nwyddau nid yn unig yn ecogyfeillgar, ond hefyd yn ddengar a deniadol. Mae’r dull hwn wedi bod wrth galon eu hymdrechion, wedi’i wreiddio yn ddwfn yn herio’r diwylliant gwastraffu ac yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned a’i drigolion fel ei gilydd.

Maen nhw’n canolbwyntio ar leihau’r defnydd o blastig ac yn dewis opsiynau amgen ecogyfeillgar, felly nid cadwraeth amgylcheddol yn unig, ond hefyd grymuso unigolion i fod yn rhan o’r newid hwn. Maen nhw’n credu bod pob gweithred fach, fel dewis eitem gynaliadwy, yn cyfrannu’n sylweddol at y nod ehangach o gadwraeth amgylcheddol.

Mae Eco Chic yn annog unigolion i wneud dewisiadau sy’n helpu newid y byd, un eitem ar y tro. Maen nhw’n ysbrydoli nid cwsmeriaid eco-gydwybodol yn unig, ond unrhyw un sy’n gwerthfawrogi ansawdd, ymarferoldeb, a dylunio da, i wneud dewisiadau sy’n dda i’r blaned ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Dilynwch Eco Chic: Website / Instagram / TikTok / Facebook /

Cyclehoop

Cyclehoop

Dydd 7

Mae Cyclehoop yn creu, yn darparu ac yn rheoli parcio beiciau a seilwaith beiciau arloesol. Mae tîm Cyclehoop yn ymroddedig i wneud lleoedd yn fwy cyfeillgar i feiciau.

Gan fod anghenion pob ysgol yn wahanol, mae Cyclehoop yn cynnig dewis un o blith y gwobrau isod i’r enillydd.

• 1 x rac beiciau Toast Rack ar gyfer 10 beic, gyda phaent côt powdr yn eich dewis o liw

• Gwerth £600 o feiciau i greu llyfrgell beiciau i ddisgyblion eu defnyddio

• Pecyn bws beiciau cychwynnol (dillad llachar gyda brandio’r ysgol, clychau beiciau, helmedi, goleuadau, pecyn tŵls)

Mae Cyclehoop yn creu nwyddau arobryn, wedi’u dylunio gan feicwyr, i annog pobl i wneud y newid a phrofi buddion reidio beic.

Mae’r tîm yn credu y bydd creu mannau sy’n hwyliog ac yn gyfeillgar i feiciau yn creu dyfodol iach a chynaliadwy.

Mae Cyclehoop yn gweithio gydag ysgolion i roi cyngor ar, a darparu parcio, cysgodfeydd, ac ategolion beiciau, gan helpu pobl ifanc i gofleidio beicio.

Nodwch y cod ‘HoopBig’ wrth gyrraedd y dudalen talu i dderbyn disgownt o 10% ar archebion a wneir cyn 31 Mai 2024.

Dilynwch Cyclehoop: Facebook / Instagram / Twitter / LinkedIn / neu gallwch gofrestru i dderbyn eu newyddlen /

Frog Bikes

Frog Bikes

Dydd 2

Mae Frog Bikes, cynhyrchwr blaenllaw o feiciau ysgafn arobryn i blant, yn cyfrannu beic fel gwobr fel rhan o her Stroliwch a Roliwch.

Bydd un ysgol gynradd lwcus yn ennill beic plentyn Frog City 53 mewn lliw gwyrddlas, gwerth £550!

Mae’r beic Frog City 53 maint 20 modfedd yn feic 8 gêr delfrydol ar gyfer y dref, ac mae’n addas ar gyfer plant 5 i 7 mlwydd oed. Mae’r Frog City 53 yn cynnwys nifer o gydrannau a nodweddion sy’n addas i oedran y beiciwr, i’w gwneud yn haws ei ddefnyddio yn y dref, yn cynnwys sedd dalsyth, ffrâm camu drwodd, derailleur 8 gêr, gwarchodwr cadwyn symudol, giardiau olwyn maint llawn, stand cicio a rac panieri. 

Pam dewis Frog Bikes?

Mae dyluniad beiciau Frog Bikes yn cael eu llywio gan ymchwil gwyddonol i sicrhau bod geometreg a chydrannau’r beiciau yn ffitio plant yn iawn. Mae’r beiciau’n addasu i blant wrth iddynt dyfu, felly gallant eu cadw am gyfnod hirach, ac maent yn ddigon gwydn i gael eu defnyddio am flynyddoedd, felly gellir eu pasio ymlaen i nifer o berchnogion. Ond yn bwysicaf oll, mae beiciau Frog wedi’u gwneud i sicrhau y gall plant fwynhau oriau lawer o hwyl yn reidio eu beiciau!  

Mae cyfres Frog o feiciau ergonomig yn cynnwys beiciau balans, a beiciau pedalau cyntaf, hybrid, ffordd, trac, mynydd a dinas ar gyfer plant 18 mis i 14+ mlwydd oed. I ddysgu mwy, ewch i’r dudalen partneriaid. 

Dilynwch Frog Bikes: Facebook / Twitter / Instagram / www.frogbikes.com /

Team Rubicon

Team Rubicon

Dydd 3

Team Rubicon yw darparwr hyfforddiant sglefrfyrddio a sgwtera blaenaf y Deyrnas Unedig. Drwy ysgolion, cynghorau a sefydliadau eraill, maen nhw bellach yn dysgu mwy na 120,000 o bobl ifanc ledled y wlad bob blwyddyn.

Maen nhw’n cynnig diwrnod o hyfforddi sglefrfyrddio am ddim i ysgol fuddugol. Mae hyn yn golygu y caiff hyd at 6 dosbarth o blant (180 o ddisgyblion) fwynhau gweithdy hwyliog a difyr yn y gamp Olympaidd gyffrous hon. Bydd yr hyfforddwr yn teithio atoch chi ac yn dod â’r holl offer angenrheidiol.

Mae Team Rubicon wedi bod yn darparu hyfforddiant sglefrfyrddio am bron i ugain mlynedd ac mae eu hyfforddwyr ymysg y mwyaf profiadol yn y wlad. Mae’r gweithdai yn hyrwyddo ffordd iach, egnïol o fyw ac agweddau meddyliol cadarnhaol.

Dilynwch Team Rubicon: Facebook / Twitter / Instagram / Website /

Scootability

Scootability

Dydd 8

Rhaglen hyfforddi sgwtera genedlaethol yw Scootability, wedi’i chynllunio i helpu pobl ifanc wneud siwrneiau’n ddiogel ar eu sgwteri. Mae Scootability wrth galon cynlluniau teithio cynaliadwy a llesol ar gyfer ysgolion a chynghorau.

Maen nhw’n cynnig diwrnod o hyfforddi sgwtera am ddim i ysgol fuddugol. Mae hyn yn golygu y caiff hyd at 3 dosbarth o blant (90 o ddisgyblion) wneud eu cwrs Lefel 1 a dechrau dysgu sgwtera’n ddiogel. Bydd yr hyfforddwr yn teithio atoch chi ac yn dod â’r holl offer angenrheidiol.

Mae gweithdai Scootability eisoes wedi cael eu cynnal ar gyfer mwy na 100,000 o blant ledled y wlad. Bydd sesiynau nid yn unig yn helpu gyda diogelwch ar y ffyrdd ond hefyd yn gwella iechyd corfforol, llesiant meddyliol ac yn gosod y sylfeini ar gyfer cenedlaethau sy’n ymroddedig i deithio cynaliadwy a llesol.

Dilynwch Scootability: Twitter / Website /