Prif noddwr

Eich Preifatrwydd

Yn Sustrans, rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd ac i fod yn dryloyw am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol.

Rydym yn casglu data personol amdanoch pan fyddwch yn rhyngweithio â ni drwy gofrestru am gyfrif Stroliwch a Roliwch Sustrans ar-lein, pan fyddwch yn gofyn i gael eich cadw’n hysbys am Stroliwch a Roliwch Sustrans, yn ymweld â’n gwefan neu’n rhoi eich data personol inni mewn ffordd arall.

Pan fyddwch yn dewis cofrestru am gyfrif ar-lein ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans, gallwn gasglu eich enw, cyfeiriad ebost, cyfeiriad gwaith.

Rydym yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, ffôn, llechen ddigidol neu ddyfeisiau eraill a ddefnyddiwch i fynd ar ein gwefannau. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth drwy eich dyfais am eich system weithredu, math o borwr, cyfeiriad IP, URL tudalennau sy’n eich cyfeirio atom/yn eich cyfeirio oddi wrthym, a gwybodaeth adnabod dyfeisiau.

Pan fyddwch yn ymweld â gwefan Stroliwch a Roliwch Sustrans, rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan ac yn olrhain pa dudalennau’r ydych yn ymweld â nhw pan fyddwch yn dilyn dolenni o’n ebostiau.

Rydym yn defnyddio cwcis ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans i wella eich profiad o’r wefan, i storio data dros dro ac i ddeall pa rannau o’r wefan rydych yn ymweld â nhw. I weld pa gwcis a ddefnyddiwn ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans, gweler Ein Cwcis.

Rydym yn defnyddio eich data personol at sawl diben, ac fe’u prosesir dan y sail gyfreithlon o ddiddordeb dilys, yn cynnwys:

  • rhoi mynediad at wasanaethau gwefan Stroliwch a Roliwch Sustrans
  • gweinyddu gwasanaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans, yn cynnwys dyfarnu gwobrau a chyhoeddusrwydd cysylltiedig
  • dadansoddi, rheoli a gwella gwasanaeth a gwefan Stroliwch a Roliwch Sustrans
  • cysylltu â chi gyda gwybodaeth berthnasol bellach am ein gwaith, gwasanaethau, gweithgareddau neu gynnyrch sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a digwyddiadau ysgolion

Byddwn hefyd yn prosesu eich data personol fel y gofynnir dan y gyfraith neu reoliadau.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda Stroliwch a Roliwch Sustrans, byddwn yn cadw eich data personol am dair blynedd. Gallwn ddileu eich data ar gais ar unrhyw adeg. Os bydd eich cyfrif yn anweithredol am dair blynedd, ac nad yw’n gyfeiriad ebost y gellir ei gael o’r parth cyhoeddus, neu ar eich cais, byddwn yn dileu eich cyfrif Stroliwch a Roliwch Sustrans ar-lein cyn gynted ag sy’n ymarferol.

Os byddwch yn dad-danysgrifio o ohebiaeth marchnata, bydd lleiafswm o ddata personol yn cael ei gadw ar restr atal i sicrhau nad ydych yn defnyddio gohebiaeth o’r fath.

Yr unig ddata personol a rannwn amdanoch o wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans yw gyda noddwyr gwobrau pan fo’n angenrheidiol, a phroseswyr trydydd parti a ddewisir yn ofalus sy’n ein helpu i gynnal her Stroliwch a Roliwch Sustrans.

Mae’n bosibl y bydd data cyfansymiol neu ddata dienw ynghylch Stroliwch a Roliwch Sustrans yn cael ei rannu gyda thrydydd parti, fel awdurdodau lleol, ond ni fydd data personol yn cael ei rannu.

O fewn Sustrans, dim ond y rhai y mae ei angen arnynt i ddarparu gwasanaethau Stroliwch a Roliwch Sustrans sy’n gallu cyrchu eich data personol.

Cewch fynediad at eich data personol ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans a chlicio ar ‘eich cyfrif’.

Os bydd unrhyw rai o’ch manylion yn newid neu angen eu cywiro, yna gallwch olygu’r rhain yn eich cyfrif neu gysylltu â ni i gael cywiro’r rhain drwy anfon ebost at bigwalkandwheel@sustrans.org.uk. Gallwch ofyn hefyd i’ch cyfrif gael ei ddad-actifadu neu ei ddileu.

Cewch ddad-danysgrifio o ohebiaeth marchnata ar unrhyw adeg, drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn yr ebostiau.

Os nad ydych yn fodlon gyda’n defnydd o’ch data personol, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Buasem yn eich annog i gysylltu â ni yn y lle cyntaf er mwyn inni gael ceisio datrys unrhyw bryderon.

Mae Sustrans yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd a’ch data personol. Am fwy o wybodaeth, gofynnwch i’ch arweinydd gweithgaredd, neu ewch i www.sustrans.org.uk/privacy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu adborth am sut rydym yn defnyddio eich data personol, yna cysylltwch â’n Rheolwr Diogelu Data ar dataprotection@sustrans.org.uk neu drwy’r post at Sustrans, 2 Cathedral Square, College Green, Bryste BS1 5DD.

Gallwch reoli rhai o’r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon gan ddefnyddio ein rheolwyr cwcis.

Mae’r rhestr isod yn egluro pa gwcis a ddefnyddiwn a pham.

Gosodiadau Cwcis

Enw/enwau’r cwci: cctr_cookie_settings

Pwrpas: Mae’r cwci hwn yn storio eich gosodiadau cwcis. Rydym yn ei ddefnyddio i gadarnhau a ydych wedi dweud wrthym ba gwcis rydych yn eu caniatáu, ac i gadw’r gosodiadau hynny ar gyfer eich ymweliadau â’r wefan yn y dyfodol.

Google Analytics

Enw/enwau’r cwci: _ga, _gid, _gat, AMP_TOKEN, _gac_<property-id>

Pwrpas: Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn yr wybodaeth hon i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, yn cynnwys y nifer o ymwelwyr â’r safle, o ble daeth ymwelwyr i’r wefan a’r tudalennau y gwnaethant ymweld â nhw.

Mwy o wybodaeth: Cliciwch yma am drosolwg o breifatrwydd gan Google

Cwci dilysu cyflwyno ffurflenni

Enw/enwau’r cwci: app[security][token]

Pwrpas: Defnyddir y cwcis hyn i sicrhau bod gan ddefnyddiwr sy’n cyflwyno ffurflen yr awdurdod i wneud hynny. Mae angen hyn er mwyn diogelu defnyddwyr a’r wefan fel ei gilydd rhag defnyddio ffurflenni mewn modd maleisus i effeithio ar ddata. Mae’r cwci yn cofnodi ID unigryw a dienw ar gyfer pob defnyddiwr, a bydd hwn yn darfod pan fydd y defnyddiwr yn cau eu porwr gwe.

Dilysu

Enw/enwau’r cwci: app[__encrypted]

Pwrpas: Mae’r cwci hwn yn adnabod defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi i’r wefan er mwyn caniatáu iddynt ddefnyddio’r amrywiol nodweddion sy’n galw am fod wedi mewngofnodi ac sy’n gysylltiedig â defnyddiwr penodol. Mae’r cwci hwn yn cofnodi edefyn wedi’i amgryptio, sy’n galluogi’r wefan i adnabod y defnyddiwr a bydd yn darfod pan fo’r defnyddiwr yn cau eu porwr gwe.