Prif noddwr

Cwestiynau Cyffredin

  • Sut dylwn i gofrestru fy ysgol?

    Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw cwblhau manylion eich ysgol ar dudalen gofrestru Stroliwch a Roliwch Sustrans.

  • Beth yw rhif cyfeirnod DfE (Bydd angen hwn arnoch i gofrestru)

    Mae gan ysgolion Cymru a Lloegr rif DfE saith digid. Mae wedi’i ffurfio o rif awdurdod lleol y rhif (tri digid) wedyn ei rif sefydliad (pedwar digid). Gallwch chwilio amdano yma, neu holwch swyddfa eich ysgol.

    Os nad oes gennych rif DfE/SEED/Inst Ref oherwydd mai meithrinfa, ysgol newydd neu academi ydych chi, anfonwch ebost atom i bigwalkandwheel@sustrans.org.uk

  • Rhiant/cydlynydd teithio ysgol wyf fi. Allaf i gofrestru fy ysgolion ar eu rhan?

    Fe gewch gynnig helpu eich ysgolion i gofrestru, ond bydd angen i aelod o staff yr ysgol gofrestru gan y bydd gofyn iddyn nhw fewngofnodi a chofnodi eu canlyniadau bob dydd.

  • Sut mae newid/ailosod fy nghyfrinair?

    Ar y dudalen mewngofnodi mae yna opsiwn i ailosod eich cyfrinair. Y cwbl mae angen ichi ei wneud yw clicio ar ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair’.

  • Rwy’n cael trafferth mewngofnodi. Beth ddylwn ei wneud?

    Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a ddefnyddioch i gofrestru’ch ysgol a’r cyfrinair a ddefnyddioch wrth gofrestru.

    Weithiau mae problemau gyda’r cysylltiad â’r rhyngrwyd felly mae’n werth rhoi ambell gynnig arni. Os byddwch yn parhau i gael trafferth, ebostiwch bigwalkandwheel@sustrans.org.uk am gymorth.

  • A gaiff athrawon unigol fewngofnodi ar yr un pryd?

    Cânt, fe gaiff athrawon unigol fewngofnodi ar yr un pryd gan ddefnyddio’r un manylion mewngofnodi. Dim ond un set o fanylion mewngofnodi sydd ar gyfer pob ysgol, felly bydd angen rhannu’r manylion hyn gydag unrhyw un sydd am gael mynediad i gyfrif Stroliwch a Roliwch eich ysgol.

  • Sut allaf i osod manylion dosbarthiadau unigol os byddaf yn cofrestru fel ysgol?

    1. I osod dosbarthiadau unigol ar eich cyfrif, yn gyntaf, mewngofnodwch i’ch cyfrif.
    2. Ar dudalen hafan eich ysgol, dewiswch y botwm ‘rheoli dosbarthiadau eich ysgol’.
    3. Teipiwch enw’r dosbarth a dewiswch ‘ychwanegu’r dosbarth hwn’.
    4. Ailadroddwch y camau hyn ar gyfer pob dosbarth y dymunwch eu hychwanegu.

    Yn hytrach nag ychwanegu dosbarthiadau, gallwch ychwanegu grwpiau blwyddyn neu’r ‘ysgol gyfan’.

  • Pwy sy’n cael cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans?

    Caiff disgyblion yn HOLL ysgolion y Deyrnas Unedig gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans (a bwrw fod ganddynt rif cyfeirnod DfE, SEED neu Inst. – beth yw’r rhain?)

    Ysgolion preswyl

    Caiff ysgolion preswyl gymryd rhan yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans.

    I gymryd rhan, caiff disgyblion di-breswyl deithio i’r ysgol gan gerdded, defnyddio cadair olwynion, sgwtera neu feicio. Os bydd disgyblion preswyl yn cerdded, olwyno, sgwtera neu feicio am fwy na 10 munud o’u llety preswyl i’w gwersi, cânt hwythau hefyd gofnodi siwrne.

    Ysgolion meithrin

    Caiff ysgolion meithrin gymryd rhan yng nghystadleuaeth Stroliwch a Roliwch Sustrans a bwrw fod ganddynt rif DfE. Os nad oes gan ysgol feithrin rif DfE a’u bod yn dymuno cymryd rhan, dylent gysylltu â bigwalkandwheel@sustrans.org.uk.

    Ysgolion neu ddisgyblion anghenion addysg arbennig

    Caiff ysgolion ADY gystadlu hefyd. Os gall eich disgyblion gerdded, defnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio i’r ysgol, yna gallwch gofnodi’r siwrneiau hyn ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans.

    Os bydd disgybl ADY yn methu gwneud siwrne egnïol i’r ysgol, yna bydd un siwrne egnïol yn ystod y diwrnod ysgol, sy’n para am fwy na 10 munud neu a fyddai fel arall wedi’i gwneud mewn cerbyd modurol, yn cyfrif yn yr her. Rhaid cofnodi’r siwrneiau hyn ar y dudalen ar gyfer disgyblion ADY.

  • Beth sy’n cyfrif yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans?

    Mae siwrneiau cerdded, siwrneiau mewn cadeiriau olwynion, siwrneiau sgwter a siwrneiau beicio i’r ysgol oll yn cyfrif yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans.Caiff ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth gofnodi un siwrne egnïol fesul disgybl fesul diwrnod o’r her. Dylai hyn fod ar gyfer y siwrne i’r ysgol bob dydd.

    I’r rhai sy’n parcio ac yn cerdded/olwyno, gellir cofnodi eu siwrne i’r ysgol os yw’r rhan o’r siwrne sy’n ddull teithio egnïol yn parhau o leiaf 10 munud.

    Os bydd disgybl ADY yn methu gwneud siwrne egnïol i’r ysgol, yna bydd un siwrne egnïol yn ystod y diwrnod ysgol, sy’n para am fwy na 10 munud neu a fyddai fel arall wedi’i gwneud mewn cerbyd modurol, yn cyfrif yn yr her. Rhaid cofnodi’r siwrneiau hyn ar y dudalen ar gyfer disgyblion ADY.

  • Beth yw’r categorïau?

    Mae pum categori yn her 2024:

    • Ysgolion cynradd bach iawn (hyd at 70 o ddisgyblion)
    • ysgol gynradd fach (hyd at 250 disgybl)
    • ysgol gynradd fawr (250+ disgybl)
    • Ysgol gynradd ac uwchradd gyfun
    • ysgolion uwchradd

    Bydd y pum ysgol sydd ar frig y byrddau arweinwyr ar gyfer pob un o’r categorïau hyn yn derbyn tystysgrif Stroliwch a Roliwch Sustrans 2024 ecsgliwsif wedi’i fframio.

  • Beth os byddaf yn cofrestru fel dosbarth, ond yn nes ymlaen mae’r ysgol gyfan eisiau cofrestru?

    Gallwch newid y gosodiadau tan ddyddiad dechrau’r gystadleuaeth.

    Os bydd eich ysgol gyfan yn dymuno cymryd rhan, gallwch newid eich gosodiadau a chofrestru fel ysgol drwy glicio ar ‘fy ngosodiadau’ ar dudalen hafan eich ysgol.

  • A oes angen inni gymryd rhan am y pythefnos cyfan?

    Caiff ysgolion gymryd rhan am ddim ond pum niwrnod o’r gystadleuaeth, neu fe gânt gofnodi siwrneiau ar bob un o’r 10 diwrnod. Dewisir eich pum niwrnod gorau ar gyfer eich sgôr derfynol, fodd bynnag, po fwyaf o ddyddiau rydych chi’n cymryd rhan, mwyaf yw eich potensial i gofnodi cyfraddau cyfranogiad uwch a’r gorau yw eich siawns o ennill yn ein raffl wobrau ddyddiol.

  • Sut gallaf i weld pa ysgolion yn fy ardal sy’n cymryd rhan?

    Mae yna restr o ysgolion sydd wedi cofrestru ar y wefan, a gallwch chwilio’r rhestr yn nhrefn yr wyddor, yn ôl enw’r ysgol neu yn ôl yr Awdurdod Lleol. Neu gallwch edrych ar y map o’r ysgolion sy’n cymryd rhan.

  • Sut gall fy ysgol ennill bathodynnau?

    Eleni rydym wedi cyflwyno bathodynnau rhithiol y gall eich ysgol eu hennill drwy gymryd rhan yn yr her. Mae’r bathodynnau hyn yn ymddangos ar eich dangosfwrdd ysgol.

    Mae yna wyth bathodyn i gyd, a phob un yn cael ei ennill pan fo’ch ysgol yn cyflawni carreg filltir benodol. Er enghraifft, bydd cofnodi am 5 neu 10 diwrnod yn olynol yn ennill bathodyn ichi.

    Unwaith bydd eich ysgol wedi ennill ei fathodyn, bydd tic wrth ei ymyl.

    I ddarganfod mwy am y bathodynnau y gall eich ysgol eu hennill, mewngofnodwch i’ch cyfrif ysgol a chliciwch ar y botwm ‘darganfod mwy’ o dan yr adran ennill bathodynnau ar gyfer eich ysgol.

  • Sut gall fy ysgol ddatgloi gwobrwyon?

    Eleni gall ysgolion ddefnyddio eu siwrneiau iach i ennill gwobrwyon.

    Pan fo’ch ysgol yn cofnodi’r un nifer o siwrneiau â’r nifer ar gofrestr eich ysgol, byddwch yn gallu datgloi gwobr.

    Er enghraifft, os oes 100 o ddisgyblion yn eich ysgol, pan fydd 100 o deithiau wedi’u cofnodi gallwch ddatgloi un cod disgownt. Pan fo 100 arall o deithiau wedi’u cofnodi eraill gallwch ddatgloi cod disgownt arall.

    Gallwch ddatgloi gwobr drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ysgol ac ar ddangosfwrdd eich ysgol drwy glicio ar y botwm ‘darganfod mwy’. Bydd hyn yn eich arwain i’r dudalen gwobrwyon.

    Yna byddwch yn gweld nifer y teithiau heb eu gwario sydd gennych. Gallwch ddatgloi gwobr trwy glicio ar y botwm ‘hawlio gwobr’.

    Gallwch ddatgloi gwobrau mewn unrhyw drefn.

  • Beth yw'r gwobrau y gall fy ysgol eu datgloi?

    Mae yna wyth gwobr y gall ysgolion eu datgloi i gyd.

    Mae’r rhain yn cynnwys codau disgownt amrywiol gan MicroScooters, beiciau Frog, EcoChic, Scootability, Team Rubicon, Cyclehoop a siop Sustrans.

    Gallwch ddatgloi gwobrau mewn unrhyw drefn.

  • Ni all ein hysgol gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans gan nad oes llwybrau diogel i ddisgyblion deithio’n egnïol i’r ysgol oherwydd ffyrdd prysur / dim llwybrau troed ac ati, beth allwn ni ei wneud?

    Rydym yn ymwybodol na all pob ysgol gofnodi siwrneiau teithio egnïol oherwydd, yn anffodus, bod diffyg llwybrau diogel o amgylch eu hysgol. Fodd bynnag, fe’ch anogwn i gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans beth bynnag, gan ddefnyddio’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau i ddysgu am deithio llesol.

    Argymhellwn hefyd i’ch ysgol wneud adduned i gymryd rhan yn Arolwg Mawr y Strydoedd Sustrans. Dyma adnodd cwricwlaidd cyffrous sydd ar gael am ddim, sy’n galluogi disgyblion i archwilio’r ardal o gwmpas eu hysgol a chreu maniffesto ar sut i wneud eu strydoedd yn fwy diogel ac yn wyrddach. Gellir defnyddio’r maniffestos hyn wedyn i lobïo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig ar lefel genedlaethol a lleol i wneud i’r newidiadau hyn ddigwydd.

  • Sut mae ysgolion yn cofnodi eu siwrneiau cerdded, mewn cadair olwyn, sgwtera a beicio unwaith bydd yr her wedi dechrau?

    Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho taflenni cofnodi dosbarth ar gyfer pob un o’ch dosbarthiadau o’r dudalen adnoddau. Caiff athrawon gofnodi siwrneiau a gweithgareddau eu dosbarth ar y taflenni hyn.

    Bydd ysgolion wedyn yn mewngofnodi i dudalen hafan eu hysgol ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans bob dydd ac yn cofnodi’r nifer o siwrneiau cerdded, cadair olwyn, sgwter neu feic i’r ysgol.

    Gall hyrwyddwr ysgol sy’n casglu’r taflenni cofnodi gan bob dosbarth/blwyddyn gofnodi’r siwrneiau, neu gall athrawon unigol eu cofnodi.

  • Sut gallaf gofnodi neu olygu siwrneiau?

    1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Stroliwch a Roliwch.
    2. Ar dudalen hafan eich ysgol, dewiswch y botwm ‘cofnodi eich siwrne’.
    3. Cofnodwch siwrneiau/gweithgareddau eich dosbarth/ysgol ar gyfer y diwrnod hwnnw.

    Rhaid rhoi gwerth ym mhob cell er mwyn cadw’r siwrneiau. Os nad oes gennych un o’r dulliau teithio llesol, er enghraifft, sgwtera, yna nodwch sero yn y gell. I olygu’r canlyniadau a gofnodwyd ar y diwrnod hwnnw, cliciwch ar rif y dydd hwnnw, e.e. un, a bydd yn caniatáu ichi olygu’r rhifau. Unwaith bydd y sgorau wedi’u nodi a’r terfyn amser hanner dydd wedi mynd heibio ar y diwrnod canlynol, ni ellir newid y canlyniadau.

  • Sut mae’r raffl wobrau dyddiol yn gweithio?

    I gael eich cynnwys yn y raffl wobrau, rhaid ichi gofnodi eich siwrneiau ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans erbyn hanner dydd ar y diwrnod ysgol canlynol

    Er enghraifft, i gael eich cynnwys yn y raffl wobrau ar Ddiwrnod 1 (dydd Llun 11 Mawrth) rhaid i’r holl siwrneiau gael eu cofnodi erbyn hanner dydd ar Ddiwrnod 2 (dydd Mawrth 12 Mawrth).

    Bydd enillydd gwobr ddyddiol yn cael ei ddewis ar hap bob dydd o blith yr holl ysgolion/dosbarthiadau sydd wedi cofnodi o leiaf 15% o’u disgyblion yn cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i’r ysgol.

    Bydd Sustrans yn anfon ebost at bob ysgol sy’n ennill gwob.

  • Beth fydd yn digwydd os bydd fy ysgol yn methu’r amser cau ar gyfer cofnodi siwrneiau dyddiol?

    Er mwyn ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol, ac i gael eu cynnwys yn y raffl wobrau ddyddiol, rhaid i ysgolion a dosbarthiadau gofnodi eu siwrneiau/gweithgareddau erbyn hanner dydd ar y diwrnod ysgol nesaf.

    Fodd bynnag, caiff ysgolion tan hanner dydd ddydd Llun 15 Ebrill 2024 i gofnodi’r data hwn, pe byddent yn ei chael yn anodd cofnodi eu siwrneiau’n ddyddiol. Os caiff yr holl siwrneiau eu cofnodi ar 15 Ebrill (yn hytrach nag yn ddyddiol) dim ond tuag at eich safle yn y ras gyflawn fydd y sgorau’n cyfrif, ac ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y rafflau gwobrau dyddiol.

  • Pam nad yw'r teithiau o'r diwrnod blaenorol yn ymddangos?

    Byddwn yn anelu at gyhoeddi byrddau arweinwyr dyddiol wedi’u diweddaru ar y wefan erbyn 2yh bob dydd, i ddangos canlyniadau’r diwrnod cynt.

  • Sut allaf i weld sut hwyl mae fy ysgol yn ei gael arni?

    Yn ystod yr her, bydd safleoedd ysgolion ar gael yn gyhoeddus ar y wefan yn ddyddiol. Gan fod ysgolion yn gallu cofnodi eu canlyniadau’n ddyddiol neu ar ddiwedd yr her, bydd modd cael darlun mwy cywir o’ch cynnydd ar ddiwedd yr her.

  • Sut caiff y canlyniadau eu cyfrifo ar gyfer pob ysgol bob dydd?

    Po fwyaf y nifer o ddisgyblion sy’n cerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i’r ysgol bob dydd, gorau fydd eich canlyniad.

    Sylwer: rhaid nodi rhif yr ysgol neu’r dosbarth yn gywir, felly gwiriwch fod eich un chi’n gywir cyn i’r gystadleuaeth ddechrau drwy fynd i’r dudalen gosodiadau ar gyfer eich ysgol.

  • Pa bryd yw fy nghyfle olaf i gofnodi siwrneiau?

    Gellir ychwanegu siwrneiau egnïol hyd at hanner dydd, ddydd Llun 15 Ebrill 2024. Fodd bynnag, fe’ch anogwn i gofnodi eich holl siwrneiau egnïol/gweithgareddau corfforol erbyn hanner dydd y diwrnod canlynol yn ystod yr her er mwyn iddynt ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol ac i chi gael eich cynnwys yn y raffl wobrau ddyddiol.

  • A yw’r gystadleuaeth yn deg i ysgolion bach/mawr eu maint?

    Ydi, mae’r gystadleuaeth yn deg i ysgolion o bob maint. 

  • Pa bryd fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi?

    Bydd yr ysgolion buddugol a’r safleoedd terfynol yn cael eu cadarnhau erbyn 29 Ebrill 2024. Bydd manylion yr ysgolion buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans.

  • Beth fydd yn digwydd os bydd sgôr gyfartal?

    Pe bai sgôr gyfartal, bydd yr ysgolion ar frig y bwrdd arweinwyr yn cael eu cyhoeddi’n enillwyr ar y cyd.

  • Sut fyddaf i’n gwybod os yw fy ysgol wedi ennill y gystadleuaeth?

    Dyfernir tystysgrifau Stroliwch a Roliwch Sustrans wedi’u fframio i’r rhai yn y pum safle uchaf ar y byrddau arweinwyr cenedlaethol.

    P’un ai gwnaethoch chi ennill ai peidio, gall pob ysgol a dosbarth argraffu eu tystysgrif Stroliwch a Roliwch Sustrans eu hunain; gellir ei lawrlwytho o’r dudalen adnoddau ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans.

Mwy o gwestiynau? Cysylltwch â thîm Stroliwch a Roliwch Sustrans: bigwalkandwheel@sustrans.org.uk